Nehemiah 7

Trefniadau diogelwch Jerwsalem

1Roedd y wal wedi ei gorffen, drysau'r giatiau wedi eu gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi eu penodi. 2A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl. 3Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”

Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl o Babilon

(Esra 2:1-70)

4Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi eu hadeiladu ynddi bryd hynny. 5A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd.

Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi ei gofnodi:

6Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. 7Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana.
Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
8Teulu Parosh: 2,172
9Teulu Sheffateia: 372
10Teulu Arach: 652
11Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818
12Teulu Elam: 1,254
13Teulu Sattw: 845
14Teulu Saccai: 760
15Teulu Binnŵi: 648
16Teulu Bebai: 628
17Teulu Asgad: 1,322
18Teulu Adonicam: 667
19Teulu Bigfai: 2,067
20Teulu Adin: 655
21Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
22Teulu Chashŵm: 328
23Teulu Betsai: 324
24Teulu Chariff: 112
25Teulu Gibeon: 95
26Dynion Bethlehem a Netoffa: 188
27Dynion Anathoth: 128
28Dynion Beth-asmafeth: 42
29Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743
30Dynion Rama a Geba: 621
31Dynion Michmas: 122
32Dynion Bethel ac Ai: 123
33Pobl y Nebo arall: 52
34Pobl yr Elam arall: 1,254
35Pobl Charîm: 320
36Pobl Jericho: 345
37Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721
38Pobl Sena'a: 3,930

39Yr offeiriaid:

Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
40Teulu Immer: 1,052
41Teulu Pashchwr: 1,247
42Teulu Charîm: 1,017

43Y Lefiaid:

Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74

44Y cantorion:

Teulu Asaff: 148

45Gofalwyr y giatiau:

Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138

46Gweision y deml:

Teulu Sicha
Teulu Chaswffa
Teulu Tabbaoth
47Teulu Ceros
Teulu Sïa
Teulu Padon
48Teulu Lebana
Teulu Hagaba
Teulu Shalmai
49Teulu Chanan
Teulu Gidel
Teulu Gachar
50Teulu Reaia
Teulu Resin
Teulu Necoda
51Teulu Gassam
Teulu Wssa
Teulu Paseach
52Teulu Besai
Teulu Mewnim
Teulu Neffwshesim
53Teulu Bacbwc
Teulu Chacwffa
Teulu Charchwr
54Teulu Batslith
Teulu Mechida
Teulu Charsha
55Teulu Barcos
Teulu Sisera
Teulu Temach
56Teulu Netsïach
Teulu Chatiffa.

57Teuluoedd gweision Solomon:

Teulu Sotai
Teulu Soffereth
Teulu Perida
58Teulu Jala
Teulu Darcon
Teulu Gidel
59Teulu Sheffateia
Teulu Chattil
Teulu Pochereth-hatsbaîm
Teulu Amon.

60Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

61Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

62Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

63Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

64Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. 65Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim a.

66Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, 67(heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).

68Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

70Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.

Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur
7:70 8 cilogram o aur. Hebraeg, “1,000 drachma aur”
, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
71Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur
7:71 168 cilogram o aur. Hebraeg, “20,000 drachma aur”
a 1,300 cilogram o arian
7:71 1,250 cilogram o arian Hebraeg, “2,200 mina o arian”
.

72Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram
7:72 1,200 cilogram o arian Hebraeg, “2,000 mina o arian”
o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.

73Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.

Y Gyfraith yn cael ei darllen, a'r bobl yn ymateb

Pan ddaeth y seithfed mis
7:73 seithfed mis Tishri (neu Ethanim), seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref.
, aeth pobl Israel o'u trefi

Copyright information for CYM